Beth Yw Blog? English
Mae blog yn wefan newyddion ar-lein sy'n newid yn barhaus, gyda'r straeon diweddaraf yn ymddangos ar frig y dudalen flaen a chyfle i bori drwy'r straeon blaenorol yn ôl dyddiad neu gategori. Mae blogs yn gallu cynnwys sain, fideo a ffotograffau a hefyd geiriau, ac maen nhw'n hawdd eu diweddaru.
Gyda'r mathau hyn o wefannau, mae defnyddwyr yn gallu gosod eu meddyliau, teimladau, gwybodaeth a newyddion ar y blog drwy ryngwyneb gwefan syml. Gelwir person sy'n cadw Blog yn 'Blogiwr' a gelwir y broses o ddiweddaru blog yn rheolaidd yn 'Blogio'.
Fe allwch sefydlu eich blog eich hun drwy ddefnyddio gwasanaeth rhad ac am ddim gan Google, o'r enw 'Blogger'. Mae'n hawdd ei sefydlu ac mae'n ddigon rhwydd dechrau blogio ar unwaith.
> www.blogger.com <






