Ymunwch yn yr Hwyl! English
Mae Cyswllt Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac unigolion yn Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin. Beth yw Cymunedau yn Gyntaf?
Os ydych yn un o chwe ardal Cymunedau yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, yna mae'n ddigon hawdd i chi ymuno yn yr hwyl!
Rydyn ni'n defnyddio proses syml i'ch helpu chi i gael llais ar flog Cyswllt Sir Gaerfyrddin:
![]()
Gyda help ein tîm cyfeillgar, cymerwch ffotograffau a fideos gyda'ch grŵp cymunedol, sy'n dangos y gwaith da yr ydych yn ei wneud neu'r gweithgareddau yr ydych yn cymryd rhan ynddynt.
Defnyddiwch eich camera digidol, neu ffôn symudol, eich hun, neu fe allwch ddefnyddio ein SET newydd o ddeg camera digidol a phum camera fideo i wneud y cam yma'n haws eto!
![]()
Rhannwch eich ffotograffau, fideo a newyddion gyda chymunedau eraill ar draws Sir Gaerfyrddin ar flog Cyswllt Sir Gaerfyrddin.
Fe fyddwn yn gweithio'n agos gyda chi i'ch helpu i osod eich ffotograffau, fideos, gweithgareddau a straeon newyddion ar y blog.
![]()
Cysylltwch â'ch cymuned.
Rhannwch y ffotograffau, fideos a newyddion gyda’ch cymuned a rhowch hwb i'ch gwaith da!
Mae mor syml â hynny!
Cysylltwch â'r tîm nawr i gael llais cryf yn eich CYMUNED!






