Ynglŷn â Cyswllt Sir Gaerfyrddin English
Mae Cyswllt Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac unigolion ar draws ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, i'w helpu i ddefnyddio ffôn symudol i dynnu ffotograffau a ffilmio fideos o'u gweithgareddau, ac yna'u rhannu ar flog cymunedol.
Waeth beth yw'r testun - adeiladu ardal chwarae gymunedol newydd, lansio menter fwyd gydweithredol neu lwyfannu gweithgareddau syrcas i blant a phobl ifanc - mae grwpiau ac unigolion wedi defnyddio'r blog i hybu'r gwaith gwych y maen nhw ei wneud dros eu cymunedau.
Mae Cyswllt Sir Gaerfyrddin yn un o brosiectau Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) ac mae'n cael ei ariannu gan Cymunedau @Ei Gilydd.
CAVS yw'r Cyngor Gwirfoddol Sirol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae CAVS yn elusen annibynnol sy'n darparu cyngor, cefnogaeth, gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol.
Mae Cymunedau@Ei Gilydd yn fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg newydd. Ariennir y rhaglen ar y cyd drwy raglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gweinyddir Cymunedau @Ei Gilydd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.







