Small Grant Scheme for Youth Volunteering
Russell Commission Youth Led Grant
Acting on the recommendations of the Russell Commission to make volunteering truly youth-led, CAVS Volunteer Centre has set up a small grant scheme. The grant will support a range of small volunteering projects and activities, led and carried out by young people.
Groups who work primarily with 16-25 year olds with an idea that involves youth volunteering can apply for the grant. These can be school groups, youth groups and constituted groups. Projects can be one-off events or ongoing activities, but must benefit the local community in some way. If a group isn’t constituted, the panel will consider paying the grant to an eligible organisation that will support them. Priority will be given to groups from Communities First areas, Black, Asian and Minority Ethnic Communities and young people with disabilities.
CAVS Volunteer Centre has put together a panel of young people, representatives from Carmarthenshire Youth Council, who will be responsible for assessing project applications and deciding which projects get funding, and how much they get!
The total fund available is £4,000, with a maximum of £400 per grant. The closing date for applications is Monday 15th September 2008. Application packs can be obtained by contacting CAVS on 01267 236367 or visit the website www.cavs.org.uk
Grant Dan Arweiniad Pobl Ifanc Comisiwn Russell
Gan weithredu ar argymhellion Comisiwn Russell i wneud gwirfoddoli yn rhywbeth sydd o ddifrif yn cael ei arwain gan bobl ifanc, mae Canolfan Gwirfoddoli CAVS wedi sefydlu cynllun grantiau bychain. Bydd y grant yn cynnal a chefnogi nifer o brosiectau a gweithgareddau bychain, sy’n cael eu harwain a’u cynnal gan bobl ifanc.
Gall grwpiau sy’n gweithio’n bennaf gyda phobl ifanc 16-25 oed sydd â syniad sy’n cynnwys gwirfoddoli gan bobl ifanc wneud cais am y grant. Gallai’r rhain fod yn grwpiau ysgol, grwpiau ieuenctid a grwpiau cyfansoddedig. Gall prosiectau fod yn ddigwyddiadau unwaith-ac-am-byth neu’n weithgareddau rheolaidd, ond rhaid iddynt elwa’r gymuned mewn rhyw ffordd. Os nad yw grwp yn un cyfansoddedig, bydd y panel yn ystyried talu’r grant i fudiad cymwys fydd yn eu cynnal a’u cefnogi. Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl ifanc ag anableddau.
Mae Canolfan Gwirfoddoli CAVS wedi trefnu panel o bobl ifanc, cynrychiolwyr o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, a fydd yn gyfrifol am asesu ceisiadau prosiect a phenderfynu pa brosiectau sy’n cael arian, a faint maen nhw’n gael!
Cyfanswm y gronfa yw £4,000, gydag uchafswm o £400 y grant. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yws Dydd Llun 15fed Medi 2008. Gellir cael pecynnau cais trwy gysylltu â CAVS ar 01267 236367 neu ewch i’r wefan www.cavs.org.uk
Labels: CAVS








0 Comments:
Post a Comment
<< Home